Croeso i Eirios
Mae'n syml: dydy cwmnïau dosbarthu mawr ddim yn hidio cymaint â ni.

Nid eu bai nhw yw hynny. Rydyn ni gyd yn tueddu i gymryd yn ganiataol bod 'mwy' yn golygu 'gwell', ac yn y diwydiant dosbarthu'n fwy na unman. Warysau mwy, mwy o gleientiaid, lluoedd o weithwyr.

Ond mae'r hyn sy'n cael ei ennill gyda chwmni mawr yn aml yn cael ei golli man arall. Dealltwriaeth lai trylwyr o'ch cynnych a'ch cwsmeriaid. Camgymeriadau wrth ddosbarthu sy'n gwneud i chi tybio nad oes neb yn canolbwyntio. Costau'n cynyddu er mwyn i chi dalu am eu tîm marchnata nhw.

Maen nhw wedi penderfynu aberthu effeithiolrwydd ar allor effeithlonrwydd. Eu heffeithlonrwydd nhw - nid chi.

Ond mae'r diwydiant yn anghywir. Mae ffordd arall o wneud pethau.

Yma yn Eirios, ydyn ni'n gwybod bod dosbarthu trydydd parti ar ei gorau pan yn fach, yn lleol, ac wedi'i ddatganoli. Timau llai, logisteg symlach, cysylltiadau lleol.

Peidiwch â chamgymryd: nid diffyg uchelgais yw hyn. Rydyn ni eisiau tyfu - ond mae trywydd y tyfiant hwnnw'n wahanol.

Dau warws llai, yn lle un enfawr. Wedi'n teilwra ar gyfer anghenion cwmnïau e-fasnach llai, sy'n gwerthu'n uniongyrchol i'w cwsmeriaid, yn lle i bawb arall. Adeiladu perthnasau hirdymor, yn lle ymgyrchoedd dosbarthu enfawr unwaith-yn-unig.

Hwyrach bod hyn yn gwneud synnwyr i chi, oherwydd mai dyma sut rydych chi'n rhedeg eich busnes eich hunain. Fe wnaethoch chi sylweddoli amser maith yn ôl nad y ffordd ymlaen mo e-fasnach dorfol a gwneud arbedion drwy ansawdd is. Rydych chi yn eich niche, yn canolbwyntio ar eich cwsmeriaid, ac yn uchelgeisiol.

Os felly, hoffwn ni'n fawr iawn gallu cydweithio gyda chi.

Luke Pearce founder of Eirios

Adeiladodd Luke Pearce ddau fusnes e-fasnach yn y DU, gydag un yn cyrraedd gwerthianau o £2m ac yn lansio yn yr Unol Daleithiau.

Mae e bellach yn rhedeg cwmni dosbarthu, Eirios, sy'n helpu busnesau Prydeinig ac o Ogledd Amerig yn gweithredu yn y DU.

Mae brandiau Luke wedi tyfu yn defnyddio cyfuniad o gwneuthurio yn y DU, marchanata gyda cyfryngau cymdeithasol, a gweithredu busnes moesol.

Yr unig gwmni dosbarthu all hefyd eich helpu gydag allforio.

Cwmni e-Fasnach Prydeinig ydych chi. Marchnad o 333 miliwn yw'r UDA sy'n tyfu o hyd. Os ydych chi eisoes wedi concro'r DU, pam eistedd yn ôl?

Mae gwerthu i farchnadoedd tramor yn ymgorffori ysbryd oes e-fasnach syth-i'r-cwsmer. Does dim angen rhyngfasnachwyr na siopau brics-a-mortar i gyrraedd marchnadoedd tramor bellach.

Ond bydd rhai heriau newydd na fyddwch chi wedi delio â nhw o'r blaen. Ac mae angen help llaw arnoch chi gan bobl sy'n gwybod beth maen nhw'n ei wneud.

Yma yn Eirios, rydyn ni wedi edrych yn uniongyrchol ar yr heriau hynny mae cwmnïau syth-i'r-cwsmer yn eu hwynebu wrth ymestyn dros Gefnfor yr Iwerydd.

Cludiant, trethi, cyfreithiau diogelu data neu wahaniaethau diwylliannol: datrys y rhain yw ein harbenigedd ni.

Ydyn, rydyn ni'n gwmni 3PL hefyd, a bydd hynny fwy na thebyg yn rhan bwysig o'ch gwaith wrth i chi adeiladu eich cwmni o fewn y DU. Ond rydyn ni yma hefyd i'ch helpu i gael hyd i'r rhannau eraill: gwerthu a marchnata, strategaeth a chyllid, pobl a thyfiant.

Gallwn ni helpu chi i allforio'n iawn cyn i'ch nwyddau hyd yn oed ein cyrraedd ni. Rydyn ni eisiau i chi gael eich trethi'n iawn, fel na chewch chi na'ch cwsmeriaid eu dal allan. Ac os yw'ch marchnata efallai wedi gwneud y tro i chi hyd yn hyn, gall fod angen ambell newid diwylliannol er mwyn cael yr effaith orau, boed hynny ym Mhrydain neu draw yng Ngogledd America.

Beth am i chi edrych arnom ni fel eich cangen weithredol yn y DU. Nid rhoi cyngor yn unig, ond rhoi'r cyngor hynny ar waith.

Os ydych chi'n gwmni syth-i'r-cwsmer ac yn bwriadu gwerthu ar ochr arall yr Iwerydd, dewch i ddechrau'r drafodaeth.

Lle dechreuon ni

Ein Cartref yn Sir Fynwy

Front shutter of Eirios warehouse in Wales
Beth gallen wneud i chi

Gwasanaethau Dosbarthu

Warehouse icon
Dewis
Dewis y pethau cywir o'r silffoedd, yn gyflym, heb wneud bron dim camgymeriadau.
Box icon
Pacio
Pacio'ch cynhyrchion yn barod ac o fewn cyfyngiadau maint i gadw costau cludiant i lawr.
Courier receiving box icon
Cludiant
Parseli'n cael eu casglu'n rheolaidd er mwyn sicrhau bod eich eitemau'n cael eu danfon yn fuan wedi derbyn archeb.
Checklist stock list icon
Rheoli Stoc
Cyfrif stoc a threfnu stocrestrau er mwyn sicrhau bod cynnyrch ar gael a gwneud y defnydd gorau o'r lle sydd ar gael.
Box going inside box icon
Ailbacio
Trefnu, ailbacio neu ail-labelu eich cynnyrch wedi i ni eu derbyn o'ch gwneuthurwr.
Box with return arrow icon
Dychweliadau
Prosesi dychwelyd eitemau fel bod cynnyrch mewn cyflwr da i'w gwerthu'n cael eu dychwelyd i'r stoc yn gyflym.
Dosbarthu lleol i'ch helpu i fynd yn rhyngwladol.
"Maen nhw wedi'n helpu ni i ehangu go iawn a bod yn llawer mwy uchelgeisiol." - Adam, Llyfrau Melin Bapur
Darllen Straeon ein Cwsmeriaid